Y Gyfraith yn ein Llên , livre ebook

icon

340

pages

icon

Welsh

icon

Ebooks

2019

Lire un extrait
Lire un extrait

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
icon

340

pages

icon

Welsh

icon

Ebooks

2019

Lire un extrait
Lire un extrait

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus

Astudiaeth banoramig a thematig a geir yma sy’n bwrw golwg ar y traddodiad llenyddol Cymraeg yn ei ymwneud â’r gyfraith. Cyflwynir y traddodiad barddol a llenyddol o ddelweddu’r gyfraith, o Daliesin Ben Beirdd hyd at ein dyddiau ni. Gyda hynny, amlygir y traddodiad llenyddol a’i gynnyrch fel ffynonellau sydd yn dyfnhau ein dealltwriaeth o’r gyfraith a’i dylanwad mewn cymdeithas – a chymdeithas yng Nghymru yn benodol. Gan fabwysiadu strwythur cronolegol yn bennaf, rhoddir dadansoddiad o’r ymateb llenyddol i gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru mewn cyfnodau penodol yn ei hanes. Prif ddiddordeb y gyfrol yw’r cyfeiriadau cyfreithiol mewn cynnyrch llenyddol o fewn cyd-destun astudiaeth hanesyddol a chyfreithiol, a’r nod yw gwerthfawrogi llenyddiaeth fel cyfrwng i fynegi syniadau neu i ymateb i ffenomenau cyfreithiol. Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y mae’n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â gwneud cyfraniad pwysig i hanesyddiaeth lenyddol.


Bywgraffiad
Rhagair
Byrfoddau
‘Nes na’r hanesydd . . .’: Adnabod y Genre
‘Cymhenraith gyfraith’: Cyfraith a Phencerdd yn Oes y Tywysogion
‘Sesar dadlau a sesiwn’: Beirdd yr Uchelwyr a’r Gyfraith
‘Yn gyfrwys yn y gyfraith’: y Llysoedd yn Llên y Dyneiddwyr
‘Rhostiwch y cyfreithwyr’: Gweledigaethau o’r Farn
‘Rhag gwŷr y gyfraith gas’: y Gyfraith mewn Baled ac Anterliwt
‘Hen gyfraith bengam’: y Gyfraith yng Ngweithiau’r Radicaliaid
‘Aur ben cyfreithwyr y byd’: Rhwng Radicaliaeth a Chenedlaetholdeb
‘Yn erbyn arglwydd, gwlad a deddf’: Llên, Cyfraith a Phrotest
Crynhoi
Llyfryddiaeth
Mynegai
Voir icon arrow

Date de parution

15 juin 2019

Nombre de lectures

0

EAN13

9781786834287

Langue

Welsh

Poids de l'ouvrage

3 Mo

Ar hyd y canrifoedd, bu’r gyfraith yn ysgogi, ysbrydoli a chynddeiriogi beirdd a llenorion Cymru. Dyma gyfrol arloesol sydd yn adrodd hanes yr ymateb llenyddol i syniadau, swyddogion a sefydliadau’r gyfraith. Ceir ynddi astudiaeth thematig a phanoramig
sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o’r oesoedd canol cynnar hyd at ein dyddiau ni. Cawn foli a marwnadu, diolch
a dychanu, chwerthin a chrio, oll yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llên fel cyfrwng i fynegi barn ar gyIawnder. Deuwn hefyd i ddeall
priod le’r gyfraith i’n hunaniaeth genedlaethol
ar hyd yr oesau, a hynny trwy gyfrwng cret
ac awen. Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y
mae’n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth
gyfreithiol Gymreig yn ogystal â chyfrannu’n
bwysig i hanesyddiaeth lenyddol.
MaeR. Gwynedd Parryyn ysgolhaig ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn fargyfreithiwr. Yn 2010, cafodd ei ethol yn Gymrawd i’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.
‘Cyfrol ddiddorol a dysgedig, sy’n dangos pwysigrwydd dealltwriaeth o’r gyfraith wrth ddarllen elfennau o’n llenyddiaeth fel cenedl – ac hefyd bwysigrwydd gwybodaeth o’n llenyddiaeth, yn enwedig ein barddoniaeth, er mwyn cyrraedd gwir ddealltwriaeth o’n cyfraith yn ei chyd-destun cymdeithasol. Mae’r gwaith yn llunio ac yn creu maes ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ar Gymru a’r Gymraeg.’ Yr Athro Thomas Glyn Watkin CF
‘Mae’r gyfrol gyfoethog hon yn astudiaeth drylwyr a hynod ddiddorol o’r berthynas gymhleth ac amlochrog rhwng y byd llenyddol a byd y gyfraith,rhwng beirdd a barnwyr, rhwng awduron ac ynadon. Yn ogystalâ bod yn arolwg llenyddol, mae’r llyfr hefyd yn gofnod hanesyddol a chymdeithasol gwerthfawr. Gan goIo fod gan y Cymry eu cyfreithiau eu hunain unwaith, cyn gorfod derbyn deddfau’r gorchfygwr estron, mae brwydr cenedl i gadw’i hunaniaeth yn rhedeg fel gwe drwy’r gwaith. Ac ar ben popeth, mae’n llyfr darllenadwy iawn.’
Yr Athro Alan Llwyd
Y GYFRAITHYNEINLLÊN
Y Gyfraith yn ein Llên
R. Gwynedd Parry
Gwasg Prifysgol Cymru 2019
Hawlfraint © R. Gwynedd Parry, 2019
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN eISBN
9781786834270 9781786834287
Datganwyd gan R. Gwynedd Parry ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cysodwyd gan Eira Fenn Gaunt, Pentyrch Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Melksham.
I Meinir, Ifan, Tomos a Deio, ac er cof am fy nhad yng nghyfraith, Aneurin Jones
Bywgraffiad Rhagair Byrfoddau
 1
 2
3
4
5
6
7
8
Cynnwys
‘Nes na’r hanesydd . . .’: Adnabod yGenre
‘Cymhenraith gyfraith’: Cyfraith a Phencerdd yn Oes y Tywysogion
‘Sesar dadlau a sesiwn’: Beirdd yr Uchelwyr a’r Gyfraith
‘Yn gyfrwys yn y gyfraith’: y Llysoedd yn Llên y Dyneiddwyr
‘Rhostiwch y cyfreithwyr’: Gweledigaethau o’r Farn
‘Rhag Gw}r y Gyfraith gas’: y Gyfraith mewn Baled ac Anterliwt
‘Hen gyfraith bengam’: y Gyfraith yng Ngweithiau’r Radicaliaid
‘Aur ben cyfreithwyr y byd’: Rhwng Radicaliaeth a Chenedlaetholdeb
ix xi xv
1
15
45
81
115
145
183
213
viii Cynnwys
9
10
‘Yn erbyn arglwydd, gwlad a deddf’: Llên, Cyfraith a Phrotest
Crynhoi
Llyfryddiaeth Mynegai
231
277
283 303
Bywgraffiad
Y mae Gwynedd Parry yn athro ym Mhrifysgol Abertawe. Graddiodd yn y gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac enillodd ddoethuriaeth yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caerhirfryn. Cwblhaodd ei astudiaethau cyfreithiol proffesiynol yn yr Inns of Court School of Law, Llundain, gan gael ei alw i’r Bar o Ysbyty Gray’s ym 1993. Wedi cyfnod yn fargyfreithiwr yn Abertawe, trodd ei olygon tuag at yrfa academaidd, gan dderbyn penodiadau ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. Fe’i penodwyd i gadair bersonol yn 2011. Yn 2010 cafodd ei ethol yn Gymrawd o’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ac yn 2018 fe’i hetholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Dyma’r drydedd gyfrol iddo ei chyhoeddi gyda Gwasg Prifysgol Cymru yn ystod y ddegawd hon, yn dilynDavid Hughes Parry: A Jurist in Societya (2010) Cymru’r Gyfraith: Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol(2012).
Voir icon more
Alternate Text